3 Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi.
4 Ac mi a glywais lef arall o'r nef yn dywedyd, Deuwch allan ohoni hi, fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfranogion o'i phechodau hi, ac na dderbynioch o'i phlâu hi.
5 Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi.
6 Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi'r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwpan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddauddyblyg.
7 Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim.
8 Am hynny yn un dydd y daw ei phlâu hi, sef marwolaeth, a galar, a newyn; a hi a lwyr losgir â thân: oblegid cryf yw'r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi.
9 Ac wylo amdani, a galaru drosti, a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi, pan welont fwg ei llosgiad hi,