12 A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun:
13 Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw.
14 A'r lluoedd oedd yn y nef a'i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân.
15 Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro'r cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog.
16 Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI.
17 Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr;
18 Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion.