17 Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef, Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr;
18 Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen-capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a'r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion.
19 Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a'u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef.
20 A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r llyn tân yn llosgi â brwmstan.
21 A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cig hwynt.