2 Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â'i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.
3 Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A'i mwg hi a gododd yn oes oesoedd.
4 A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia.
5 A llef a ddaeth allan o'r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.
6 Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog.
7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratôdd ei hun.
8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint.