1 At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd;
2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th lafur, a'th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog:
3 A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist.
4 Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â'th gariad cyntaf.
5 Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna'r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o'i le, onid edifarhei di.
6 Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu.
7 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I'r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.