19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th wasanaeth, a'th ffydd, a'th amynedd di, a'th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na'r rhai cyntaf.
20 Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i'r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod.
21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi.
22 Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd.
23 A'i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw'r hwn sydd yn chwilio'r arennau a'r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd.
24 Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall.
25 Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf.