23 A'i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw'r hwn sydd yn chwilio'r arennau a'r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd.
24 Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall.
25 Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf.
26 A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd:
27 Ac efe a'u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad.
28 Ac mi a roddaf iddo'r seren fore.
29 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.