4 Ac mi a welais orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau'r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a'r rhai nid addolasent y bwystfil na'i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.