8 Ac efe a â allan i dwyllo'r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr.
9 A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a'r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.
10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae'r bwystfil a'r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd.
11 Ac mi a welais orseddfainc wen fawr, a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a'r nef; a lle ni chafwyd iddynt.
12 Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.
13 A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd.
14 A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i'r llyn o dân. Hon yw'r ail farwolaeth.