11 A gogoniant Duw ganddi: a'i golau hi oedd debyg i faen o'r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial;
12 Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.
13 O du'r dwyrain, tri phorth; o du'r gogledd, tri phorth; o du'r deau, tri phorth; o du'r gorllewin, tri phorth.
14 Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen.
15 A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro'r ddinas, a'i phyrth hi, a'i mur.
16 A'r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a'i hyd sydd gymaint â'i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas â'r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A'i hyd, a'i lled, a'i huchder, sydd yn ogymaint.
17 Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo'r angel.