17 Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo'r angel.
18 Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis: a'r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw.
19 A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus;
20 Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus.
21 A'r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw.
22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi.
23 A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw'r Oen.