20 Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus.
21 A'r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw.
22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi.
23 A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw'r Oen.
24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a'u hanrhydedd iddi hi.
25 A'i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno.
26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi.