24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a'u hanrhydedd iddi hi.
25 A'i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno.
26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi.
27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.