6 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. I'r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.
7 Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.
8 Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.
9 A daeth ataf un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti'r briodasferch, gwraig yr Oen.
10 Ac efe a'm dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi'r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o'r nef oddi wrth Dduw,
11 A gogoniant Duw ganddi: a'i golau hi oedd debyg i faen o'r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial;
12 Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.