1 Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd, disglair fel grisial, yn dyfod allan o orseddfainc Duw a'r Oen.
2 Yng nghanol ei heol hi, ac o ddau tu'r afon, yr oedd pren y bywyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bob mis yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i iacháu'r cenhedloedd:
3 A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi; a'i weision ef a'i gwasanaethant ef,
4 A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a'i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.
5 Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae'r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.
6 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw'r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys.