12 Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frys; a'm gwobr sydd gyda mi, i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef.
13 Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, y cyntaf a'r diwethaf.
14 Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy'r pyrth i'r ddinas.
15 Oddi allan y mae'r cŵn, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r puteinwyr, a'r llofruddion, a'r eilun-addolwyr, a phob un a'r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd.
16 Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi'r pethau hyn yn yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, a'r Seren fore eglur.
17 Ac y mae'r Ysbryd a'r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A'r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A'r hwn sydd â syched arno, deued. A'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad.
18 Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn: