3 A phob melltith ni bydd mwyach: ond gorseddfainc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi; a'i weision ef a'i gwasanaethant ef,
4 A hwy a gânt weled ei wyneb ef; a'i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.
5 Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae'r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.
6 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw'r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys.
7 Wele, yr wyf yn dyfod ar frys: gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.
8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi'r pethau hyn.
9 Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Gwêl na wnelych: canys cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr y proffwydi, ac i'r rhai sydd yn cadw geiriau'r llyfr hwn. Addola Dduw.