13 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
14 Ac at angel eglwys y Laodiceaid, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, y Tyst ffyddlon a chywir, dechreuad creadigaeth Duw;
15 Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd: mi a fynnwn pe bait oer neu frwd.
16 Felly, am dy fod yn glaear, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan o'm genau:
17 Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth.
18 Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y'th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y'th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech.
19 Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu'r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha.