13 Ac un o'r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw'r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?
14 Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw'r rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a'u canasant hwy yng ngwaed yr Oen.
15 Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt.
16 Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na'r haul, na dim gwres.
17 Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, a'u bugeilia hwynt, ac a'u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.