1 Aphan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr.
2 Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn.
3 Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc.
4 Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau'r saint, o law yr angel i fyny gerbron Duw.
5 A'r angel a gymerth y thuser, ac a'i llanwodd hi o dân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaear: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daeargryn.
6 A'r saith angel, y rhai oedd â'r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu.
7 A'r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a'r holl laswellt a losgwyd.