6 A'r saith angel, y rhai oedd â'r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu.
7 A'r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a'r holl laswellt a losgwyd.
8 A'r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i'r môr: a thraean y môr a aeth yn waed;
9 A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd.
10 A'r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau'r dyfroedd;
11 Ac enw'r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon.
12 A'r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a'r nos yr un ffunud.