9 Gwedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasai efe ynddo ei hun:
10 Fel yng ngoruchwyliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yng Nghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaear, ynddo ef:
11 Yn yr hwn y'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun:
12 Fel y byddem ni er mawl i'w ogoniant ef, y rhai o'r blaen a obeithiasom yng Nghrist.
13 Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iachawdwriaeth: yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, y'ch seliwyd trwy Lân Ysbryd yr addewid;
14 Yr hwn yw ernes ein hetifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.
15 Oherwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tuag ar yr holl saint,