1 Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl;
2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.
3 Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd‐dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint;
4 Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.
5 Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw‐addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.
6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod.
7 Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt.
8 Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;
9 (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;)
10 Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd.
11 Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt.
12 Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.
13 Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw.
14 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.
15 Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion;
16 Gan brynu'r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.
17 Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.
18 Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â'r Ysbryd;
19 Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd;
20 Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;
21 Gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Duw.
22 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Arglwydd.
23 Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i'r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.
24 Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr priod ym mhob peth.
25 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti;
26 Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau â'r olchfa ddwfr trwy y gair;
27 Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.
28 Felly y dylai'r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun.
29 Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; eithr ei fagu a'i feithrin y mae, megis ag y mae'r Arglwydd am yr eglwys:
30 Oblegid aelodau ydym o'i gorff ef, o'i gnawd ef, ac o'i esgyrn ef.
31 Am hynny y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.
32 Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.
33 Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a'r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.