3 Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau,
4 Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,)
5 Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i'w sanctaidd apostolion a'i broffwydi trwy'r Ysbryd;
6 Y byddai'r Cenhedloedd yn gyd‐etifeddion, ac yn gyd‐gorff, ac yn gyd‐gyfranogion o'i addewid ef yng Nghrist, trwy'r efengyl:
7 I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef.
8 I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist;
9 Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist: