16 O'r hwn y mae'r holl gorff wedi ei gydymgynnull a'i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i'w adeiladu ei hun mewn cariad.
17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae'r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl,
18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon:
19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant.
20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist;
21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae'r gwirionedd yn yr Iesu:
22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus;