24 A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.
25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.
26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:
27 Ac na roddwch le i ddiafol.
28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.
29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.
30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy'r hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.