29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.
30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy'r hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.
31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni:
32 A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i'ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.