3 Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.
4 Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;
5 Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6 Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.
7 Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist.
8 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.
9 (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear?