1 Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.
2 Anrhydedda dy dad a'th fam, (yr hwn yw'r gorchymyn cyntaf mewn addewid;)
3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir‐hoedlog ar y ddaear.
4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.
5 Y gweision, ufuddhewch i'r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist;
6 Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon;