4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.
5 Y gweision, ufuddhewch i'r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist;
6 Nid â golwg‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon;
7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion:
8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo.
9 A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.
10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.