Philemon 1 BWM

1 Paul, carcharor Crist Iesu, a'r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a'n cyd-weithiwr,

2 Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di:

3 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

4 Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau,

5 Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint;

6 Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a'r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.

7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.

8 Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:

9 Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.

10 Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:

11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd;

12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i:

13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl.

14 Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd.

15 Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd;

16 Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?

17 Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi.

18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i;

19 Myfi Paul a'i hysgrifennais â'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd.

20 Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd.

21 Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.

22 Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi.

23 Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu;

24 Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.

25 Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi. Amen.At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda'r gwas Onesimus.

Penodau

1