10 Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna'n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o'r awyr a'i ladd e a'i filwyr.
11 Felly dyma'r brenin yn anfon capten arall gyda pum deg o ddynion i nôl Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”
12 Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a'i ladd e a'i filwyr.
13 Dyma'r brenin yn anfon trydydd capten gyda pum deg o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe'n mynd ar ei liniau o'i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma.
14 Mae tân wedi dod i lawr o'r awyr a lladd y ddau gapten cyntaf a'u dynion. Plîs arbed fy mywyd i!”
15 A dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin.
16 A dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel i'w holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna, ti'n mynd i farw!’”