2 Brenhinoedd 11 BNET

Athaleia, brenhines Jwda

1 Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia (brenin Jwda) wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â'r llinach frenhinol i gyd.

2 Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram. Dyma hi'n cymryd Joas, mab Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma fe'n cael ei guddio gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e mo'i ladd ganddi.

3 Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra roedd Athaleia'n rheoli'r wlad.

4 Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol i fynd i'w weld. Dyma fe'n cyfarfod gyda nhw, ac ar ôl dod i gytundeb, yn gwneud iddyn nhw gymryd llw yn y deml. Yna dyma fe'n dangos mab y brenin iddyn nhw,

5 a gorchymyn, “Dyma dych chi i'w wneud: Ar y Saboth bydd un rhan o dair o'r unedau sydd ar ddyletswydd, yn gwarchod y palas.

6 Bydd un rhan o dair arall wedi cymryd eu lle wrth giât Swr. A'r gweddill wrth y giât sydd tu ôl i'r gwarchodlu brenhinol.

7 Bydd dwy o'r unedau sydd ddim ar ddyletswydd ar y Saboth yn dod i warchod y deml ac amddiffyn y brenin.

8 Rhaid i chi sefyll o'i gwmpas gyda'ch arfau yn eich dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod yn agos atoch, lladdwch e. Dych chi i aros gyda'r brenin ble bynnag mae'n mynd.”

9 Dyma gapteiniaid yr unedau yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada'r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned (y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a'r rhai oedd yn rhydd), a dod â nhw at Jehoiada.

10 Yna dyma'r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau i'r capteniaid, sef arfau y brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD.

11 Yna dyma'r gwarchodlu brenhinol yn cymryd eu lle, gyda'i harfau yn eu dwylo. Roedden nhw'n sefyll mewn llinell o un ochr i'r deml i'r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o'r deml, i amddiffyn y brenin.

12 Yna dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”

13 Dyma Athaleia'n clywed sŵn y gwarchodlu a'r bobl, a mynd atyn nhw i'r deml.

14 Yno dyma hi'n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler yn ôl y ddefod. Roedd y capteiniaid a'r trwmpedwyr o'i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu a'r utgyrn yn canu ffanffer.Pan welodd hi hyn i gyd, dyma Athaleia'n rhwygo ei dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”

15 Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw “Ewch â hi allan o'r deml at y rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi.” Roedd wedi dweud hyn am nad oedd hi i gael ei lladd yn y deml.

16 Felly dyma nhw'n ei harestio hi a mynd â hi i'r palas brenhinol drwy'r fynedfa i'r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.

Jehoiada'r offeiriad yn newid pethau

17 Dyma Jehoiada yn selio'r ymrwymiad rhwng yr ARGLWYDD â'r brenin a'i bobl, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i'r ARGLWYDD. Gwnaeth gytundeb rhwng y brenin a'r bobl hefyd.

18 Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a'i dinistrio. Dyma nhw'n chwalu'r allorau a malu'r delwau i gyd yn ddarnau mân, a cafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau. Roedd Jehoiada'r offeiriad wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD.

19 Yna dyma fe'n galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol, a'r bobl i gyd. A dyma nhw'n arwain y brenin mewn prosesiwn o'r deml i'r palas drwy Giât y Gwarchodlu Brenhinol. A dyma'r brenin yn eistedd ar yr orsedd.

20 Roedd pawb drwy'r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd yn y palas.

Joas, brenin Jwda

21 Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25