3 Ond roedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chi'n mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron?
4 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!’” Yna dyma Elias yn mynd i ffwrdd.
5 Aeth y negeswyr yn ôl at Ahaseia, a dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod y ôl?”
6 A dyma nhw'n ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt ti'n anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!”’”
7 Yna dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Disgrifiwch y dyn i mi.”
8 A dyma nhw'n ateb, “Dyn blewog ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.”“Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”, meddai'r brenin.
9 A dyma fe'n anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda pum deg o ddynion i nôl Elias.Dyma'r capten yn dod o hyd i Elias yn eistedd ar ben bryn. A dyma fe'n mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, mae'r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.”