1 Pan glywodd Athaleia fod ei mab Ahaseia (brenin Jwda) wedi marw, dyma hi'n mynd ati i gael gwared â'r llinach frenhinol i gyd.
2 Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram. Dyma hi'n cymryd Joas, mab Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma fe'n cael ei guddio gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e mo'i ladd ganddi.
3 Bu'n cuddio gyda'i nyrs yn y deml am chwe mlynedd, tra roedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
4 Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn galw capteniaid y Cariaid (oedd yn arwain unedau o gannoedd) a'r gwarchodlu brenhinol i fynd i'w weld. Dyma fe'n cyfarfod gyda nhw, ac ar ôl dod i gytundeb, yn gwneud iddyn nhw gymryd llw yn y deml. Yna dyma fe'n dangos mab y brenin iddyn nhw,
5 a gorchymyn, “Dyma dych chi i'w wneud: Ar y Saboth bydd un rhan o dair o'r unedau sydd ar ddyletswydd, yn gwarchod y palas.
6 Bydd un rhan o dair arall wedi cymryd eu lle wrth giât Swr. A'r gweddill wrth y giât sydd tu ôl i'r gwarchodlu brenhinol.