9 Dyma Jehoiada'r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe'n rhoi'r gist ar yr ochr dde i'r allor, wrth y fynedfa i'r deml. Roedd y porthorion yn rhoi'r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist.
10 Pan oedden nhw'n gweld fod y gist yn llawn, roedd ysgrifennydd y brenin a'r archoffeiriad yn cyfri'r arian a'i roi mewn bagiau.
11 Yna roedden nhw'n ei roi i'r fformyn oedd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Roedden nhw wedyn yn ei ddefnyddio i dalu'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar y deml.
12 Roedd yn mynd i'r dynion oedd yn adeiladu'r waliau a'r seiri maen, ac roedden nhw'n ei ddefnyddio i brynu coed, cerrig wedi eu naddu ac unrhyw beth arall oedd angen ar gyfer y gwaith.
13 Tra roedd y gwaith o atgyweirio'r deml yn digwydd, gafodd dim o'r arian ei ddefnyddio i dalu am bowlenni arian, sisyrnau, dysglau, utgyrn nac unrhyw gelfi aur ac arian eraill ar gyfer y deml.
14 Roedd y cwbl yn cael ei roi i'r fformyn oedd yn arolygu'r gwaith o atgyweirio teml yr ARGLWYDD.
15 Doedd dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian oedd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn gwbl onest.