15 Dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Tyrd â dy fwa a dy saethau yma.” A dyma fe'n gwneud hynny.
16 Wedyn dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Gafael yn y bwa.” Yna dyma Eliseus yn rhoi ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.
17 Wedyn dyma fe'n dweud wrtho, “Agor y ffenest sy'n wynebu'r dwyrain.” A dyma fe'n agor y ffenest. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Saetha!” A dyma fe'n saethu. “Mae'r saeth yna'n symbol o fuddugoliaeth yr ARGLWYDD. Saeth buddugoliaeth dros Syria. Byddi di'n ymosod ar Syria yn Affec ac yn ei difa nhw'n llwyr.”
18 Yna dyma Eliseus yn dweud, “Cymer y saethau, a taro'r llawr gyda nhw.” Felly dyma'r brenin yn gafael yn y saethau a taro'r llawr dair gwaith, ac yna stopio.
19 Roedd y proffwyd yn flin gydag e. “Dylet ti fod wedi taro'r llawr bump neu chwe gwaith! Byddai hynny'n dangos dy fod yn mynd i ddinistrio Syria'n llwyr. Ond nawr dim ond tair gwaith fyddi di'n eu curo nhw.”
20 Bu farw Eliseus a cafodd ei gladdu.Roedd criwiau o ddynion o Moab yn arfer ymosod ar y wlad bob gwanwyn.
21 Un tro pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu, dyma'r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o'r criwiau yna o Moab yn dod. Felly dyma nhw'n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.