2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Roedd e'n dal i addoli'r eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi, y rhai oedd wedi gwneud i Israel bechu. Wnaeth e ddim troi cefn arnyn nhw.
3 Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i Hasael, brenin Syria a'i fab Ben-hadad, eu rheoli nhw am flynyddoedd lawer.
4 Ond dyma Jehoachas yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando am ei fod wedi gweld fel roedd Israel yn dioddef o dan frenin Syria.
5 Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon un i achub Israel oddi wrth Syria, a cafodd y bobl fynd i fyw yn eu cartrefi eu hunain eto, fel o'r blaen.
6 Ond wnaethon nhw ddim troi eu cefnau ar eilunod teulu Jeroboam oedd wedi gwneud i Israel bechu. Roedden nhw'n dal ati i bechu fel o'r blaen. Roedd hyd yn oed polyn i'r dduwies Ashera yn dal yn Samaria.
7 Doedd gan Jehoachas ddim byddin ar ôl ychwaith, dim ond pum deg o geffylau, deg cerbyd a deg mil o filwyr troed. Roedd brenin Syria wedi eu dinistrio nhw a'u sathru nhw dan draed fel mân lwch ar lawr dyrnu.
8 Mae gweddill hanes Jehoachas, y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.