1 Dyma Amaseia, mab Joas, yn dod yn frenin ar Jwda yn ail flwyddyn Jehoas fab Jehoachas fel brenin Israel.
2 Roedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iehoadan, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
3 Roedd Amaseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, er, ddim cystal â'r brenin Dafydd, ei hynafiad. Roedd yn union yr un fath â'i dad Joas.
4 Wnaeth yntau ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.