16 Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn dod yn frenin yn ei le.
17 Buodd Amaseia fab Joas, brenin Jwda, fyw am un deg pump o flynyddoedd ar ôl i Jehoas, brenin Israel, farw.
18 Mae gweddill hanes Amaseia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
19 Dyma ryw bobl yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno.
20 Dyma'r corff yn cael ei gymryd yn ôl i Jerwsalem ar geffylau, a cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid.
21 Yna dyma bobl Jwda i gyd yn cymryd Wseia, mab Amaseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud e yn frenin yn lle ei dad.
22 Wseia wnaeth ennill tref Elat yn ôl i Jwda a'i hailadeiladu ar ôl i'w dad Amaseia farw.