18 Mae gweddill hanes Amaseia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
19 Dyma ryw bobl yn Jerwsalem yn cynllwynio yn ei erbyn, a dyma fe'n dianc i Lachish. Ond dyma nhw'n anfon dynion ar ei ôl a'i ladd yno.
20 Dyma'r corff yn cael ei gymryd yn ôl i Jerwsalem ar geffylau, a cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd gyda'i hynafiaid.
21 Yna dyma bobl Jwda i gyd yn cymryd Wseia, mab Amaseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud e yn frenin yn lle ei dad.
22 Wseia wnaeth ennill tref Elat yn ôl i Jwda a'i hailadeiladu ar ôl i'w dad Amaseia farw.
23 Pan oedd Amaseia fab Joas, wedi bod yn frenin Jwda am un deg pump o flynyddoedd, dyma Jeroboam fab Jehoas yn dod yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am bedwar deg un o flynyddoedd.
24 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.