24 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.
25 Ennillodd dir yn ôl i Israel nes bod y ffin yn mynd o Fwlch Chamath yn y gogledd i'r Môr Marw yn y de. Roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud y byddai'n gwneud hynny trwy ei was Jona fab Amittai, y proffwyd o Gath-heffer.
26 Roedd yr ARGLWYDD wedi gweld bod pobl Israel yn cael eu cam-drin yn erchyll. Doedd neb o gwbl ar ôl, caeth na rhydd, i'w helpu.
27 Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am gael gwared ag Israel yn llwyr, felly dyma fe'n anfon Jeroboam fab Jehoas i'w hachub nhw.
28 Mae gweddill hanes Jeroboam, y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol yn adennill rheolaeth dros drefi Damascus a Chamath, i gyd i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
29 Bu farw Jeroboam a chafodd ei gladdu gyda brenhinoedd Israel. A dyma Sechareia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.