1 Pan oedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ddau ddeg saith o flynyddoedd, dyma Wseia, mab Amaseia, yn dod yn frenin ar Jwda.
2 Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Jecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem.
3 Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
4 Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.