19 Pan oedd Menachem yn frenin dyma Tiglath-Pileser, brenin Asyria, yn ymosod ar y wlad. Ond dyma Menachem yn rhoi tri deg pum mil cilogram o arian iddo, er mwyn ennill ei gefnogaeth a cadw'i afael yn ei safle fel brenin.
20 Roedd Menachem wedi codi'r arian drwy drethu pobl gyfoethog Israel. Cododd dreth o dros bum cant gram o arian ar bob un ohonyn nhw, a'i dalu i frenin Asyria. Felly dyma fyddin Tiglath-Pileser yn troi'n ôl; wnaethon nhw ddim aros yn y wlad.
21 Mae gweddill hanes Menachem, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
22 Pan fu farw Menachem, dyma ei fab, Pecacheia, yn dod yn frenin yn ei le.
23 Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg o flynyddoedd pan ddaeth Pecacheia, mab Menachem, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddwy flynedd.
24 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.
25 A dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwyn yn ei erbyn. Dyma hwnnw, gyda pum deg o ddynion o Gilead, yn torri i mewn i gaer y palas a lladd y brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn dod yn frenin.