25 A dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwyn yn ei erbyn. Dyma hwnnw, gyda pum deg o ddynion o Gilead, yn torri i mewn i gaer y palas a lladd y brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn dod yn frenin.
26 Mae gweddill hanes Pecacheia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
27 Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am bum deg dwy o flynyddoedd, pan ddaeth Pecach fab Remaleia, yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am ddau ddeg o flynyddoedd.
28 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.
29 Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd – trefi Ïon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a tir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria.
30 Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwyn yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ddau ddeg o flynyddoedd.
31 Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.