29 Pan oedd Pecach yn frenin ar Israel, dyma Tiglath-pileser, brenin Asyria, yn dod a gorchfygu gogledd y wlad i gyd – trefi Ïon, Abel-beth-maacha, Ianoach, Cedesh, a Chatsor, hefyd ardaloedd Gilead, Galilea, a tir Nafftali i gyd. A dyma fe'n mynd â'r bobl i gyd yn gaethion i Asyria.
30 Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwyn yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ddau ddeg o flynyddoedd.
31 Mae gweddill hanes Pecach, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
32 Yn ystod yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia fel brenin ar Israel, daeth Jotham fab Wseia yn frenin at Jwda.
33 Roedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.
34 Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
35 Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw. Jotham wnaeth adeiladu Giât Uchaf y deml.