3 Fel ei dad Amaseia roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
4 Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
5 Dyma'r ARGLWYDD yn ei daro'n wael – bu'n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb am weddill ei oes. Jotham, mab y brenin, oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli'r wlad ar y pryd.
6 Mae gweddill hanes Wseia, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
7 Pan fuodd Wseia farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. Yna daeth Jotham, ei fab, yn frenin yn ei le.
8 Pan oedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am chwe mis.
9 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.