8 Pan oedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am chwe mis.
9 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei hynafiaid o'i flaen. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu.
10 Dyma Shalwm fab Jabesh, yn cynllwyn yn ei erbyn a'i ladd o flaen pawb, yna dod yn frenin yn ei le.
11 Mae gweddill hanes Sechareia i'w gael yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
12 Roedd y neges roedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Jehw wedi dod yn wir: “Bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.” A dyna'n union oedd wedi digwydd.
13 Roedd Wseia wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg naw o flynyddoedd pan ddaeth Shalwm fab Jabesh yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am fis.
14 Roedd Menachem fab Gadi wedi dod o Tirtsa i Samaria, a lladd Shalwm. Yna dyma fe'n dod yn frenin yn ei le.