14 Yna dyma fe'n symud yr Allor Bres oedd yn arfer bod o flaen yr ARGLWYDD. Symudodd hi o du blaen y deml (roedd hi rhwng yr allor newydd a'r cysegr,) a'i gosod ar yr ochr, i'r gogledd o'r allor newydd.
15 Yna dyma'r brenin Ahas yn dweud wrth Wreia yr offeiriad: “Yr allor fawr sydd i gael ei defnyddio o hyn ymlaen. Defnyddiwch hi i losgi offrwm y bore arni, a'r offrwm o rawn gyda'r nos, yr offrymau brenhinol i gyd, a'r offrymau dros y bobl gyffredin – offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn ac offrymau o ddiod. Arni hi hefyd dych chi i sblasio gwaed yr holl anifeiliaid sy'n cael eu haberthu. Bydd yr allor bres ar gyfer fy nefnydd personol i.”
16 A dyma Wreia'n gwneud popeth fel roedd y brenin Ahas wedi dweud wrtho.
17 Tynnodd y brenin Ahas y fframiau oddi ar y trolïau a symud y dysglau oddi arnyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd "Y Môr" (sef y ddisgyl fawr oedd ar gefn yr ychen pres) a'i gosod ar lwyfan o garreg.
18 Wedyn symudodd y llwybr dan do oedd ar gyfer y Saboth, a'r fynedfa allanol oedd wedi ei hadeiladu i'r brenin fynd i'r deml. Gwnaeth hyn i gyd o achos brenin Asyria.
19 Mae gweddill hanes Ahas, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
20 Pan fuodd Ahas farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.