2 Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD ei Dduw fel roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud.
3 Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Ac yn waeth fyth, dyma fe'n llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
4 Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
5 Yna dyma Resin, brenin Syria, a Pecach fab Remaleia, brenin Israel, yn dod i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Dyma nhw'n gwarchae ar Ahas, ond roedden nhw'n methu ei goncro.
6 (Tua'r adeg yna hefyd llwyddodd Resin, brenin Syria, i ennill dinas Elat yn ôl i Syria. Gyrrodd bobl Jwda allan o Elat, a daeth pobl o Edom yn ôl i fyw yno. Maen nhw'n dal yno hyd heddiw.)
7 Anfonodd Ahas y neges yma at Tiglath-pileser, brenin Asyria: “Dy was di ydw i, a dw i'n dibynnu arnat ti. Mae brenin Syria a brenin Israel yn ymosod arna i. Plîs wnei di ddod i'm hachub i.”
8 Roedd Ahas hefyd wedi cymryd yr aur a'r arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas, a'i anfon yn dâl i frenin Asyria.